Enwau
Mae yna nifer o straeon ynghylch gwreiddiau’r enw Llangynhafal. Mae’r mwyaf ffansïol yn awgrymu mai llygredigaeth yw o ‘can’ ac ‘afal’, h.y. plwyf y can afal, ac mae’n cyfeirio at glerigwr a anfonodd gant o afalau at yr esgob, pob un yn cynnwys darn o aur, er mwyn sicrhau swydd yn y plwyf. O ystyried fod 100 darn aur yn swm sylweddol a’r plwyf yn gymharol dlawd, mae hyn yn go annhebygol. Esboniad mwy credadwy yw ei fod wedi ei enwi ar ôl y cenhadwr Sant Cynhafal o’r 7fed ganrif, mab Sant Elgud ap Cadfarch ap Caradog Freichfras. Mae’r plwyf yn dal i ddathlu Gwˆ yl y Mabsant ar 5 Hydref.
Mae gan yr enw Gellifor darddiad clir: ‘gelli’ sy’n cyfeirio at gelli o goed cyll a ‘mor’ sy’n golygu mawr. Mor bell yn ôl â 1836, mae Map y Degwm yn dangos ardal goediog pum acer, a elwir yng Nghoed Copi, mewn cae y tu ôl i Gellifor Farm. Credir fod y goedwig wedi ei dymchwel i gael pren yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Hendre yr Owithe oedd enw’r drefgordd a sefydlwyd yn 1533 neu 1538 a ddatblygodd hyn yn naturiol i’w ffurf bresennol, sef Hendrerwydd, sef hendre’r coed yw.