Published: 15 Meh 24
Bob blwyddyn mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cymru. Cyn y dyddiad hwn caiff unrhyw berson a buddiant gyfle i archwilio a gwneud copiau or cyfrifon a'r holl lyfrau ac ati sy'n ymwneud a hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31Mawrth 2024 bydd y dogfennau hyn ar gael wrth wneud cais i John Roberts, Clerc, Rhos Newydd, Gellifor Rhif ffon 01824 704776 neu email clerk@llangynhafal.org.uk rhwng oriau 6.00pm a 8.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn dechrau ar 01.07.2024 ac yn gorffen ar 26.07.2024. O 12 Medi 2024 hyd nes y bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau mae gan etholwyr yr hawl i holi'r Archwilydd am y cyfrifon ar hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd a gwneud gwrthwynebiadau i'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig gyda copi i'r Cyngor. Gellir cysylltu a'r Archwilydd drwy'r cyfeiriad 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu ebost communitycouncilaudits@audit.cymru Read More...